Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 19 Hydref 2017
Amser:
09.30 -
14.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4412
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Dai Lloyd AC (Cadeirydd) Jayne Bryant AC Angela Burns AC Rhun ap Iorwerth AC Caroline Jones AC Lynne Neagle AC |
Tystion: |
Karin Orman, Coleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol Dr Alison Stroud, Coleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith Beth Bowen, Coleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith Melanie Minty, Fforwm Gofal Cymru Steven Ford, Fforwm Gofal Cymru David Francis, Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru John Palmer, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Kim Williams, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Victoria Gimson, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro Lisa Lane, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro Claire Aston, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan Dr Chineze Ivenso, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan Sarah Isaac, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda Sue Stephens, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda |
Staff y Pwyllgor: |
Claire Morris (Ail Glerc) Kayleigh Imperato (Dirprwy Glerc) Amy Clifton (Ymchwilydd) Philippa Watkins (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriad gan Dawn Bowden AC a Julie Morgan AC.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Goleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol a Choleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd.
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Fforwm Gofal Cymru.
4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
5.1 Cynhaliodd y Pwyllgor drafodaethau ychwanegol ar ei ymchwiliad i weithgarwch corfforol ymhlith plant a phobl ifanc a chytunodd i wahodd rhanddeiliaid i sesiynau casglu tystiolaeth yn ystod tymor y gwanwyn.
6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru.
6.2 Cytunodd David Francis i roi dadansoddiad i'r Pwyllgor o nifer y cartrefi gofal yng Nghymru yr oedd AGGCC wedi'u cau oherwydd eu bod yn darparu gwasanaethau gwael.
7.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.
8.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
8.2 Cytunodd Dr Chineze Ivenso i roi i'r Pwyllgor ganfyddiadau archwiliadau 2017, hyd yma, i'r defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig gyda chleifion â dementia sy'n byw mewn cartrefi gofal ym mwrdeistref Casnewydd.
8.3 Cytunodd y ddau Fwrdd Iechyd i ysgrifennu at y Pwyllgor yn nodi pa ddata ar ragnodi meddyginiaethau gwrthseicotig y dylid eu casglu yn genedlaethol, yn eu barn hwy, er mwyn galluogi byrddau iechyd i feincnodi â'i gilydd ac â safonau NICE.
9.1a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Fferylliaeth Gymunedol Cymru mewn cysylltiad â'r ymchwiliad i'r defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal.
9.2a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ynglŷn â'r ymchwiliad y mae'r Pwyllgor ar fin ei gynnal i faterion yn ymwneud ag atal hunanladdiad.
9.3a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ynghylch Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014.
10.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
11.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn ystod eitemau 2, 3, 6, 7 ac 8 o'r cyfarfod.